Y Pwyllgor Busnes |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 14 Mai 2012 |
|
|||
Amser: |
13:15 - 13:45 |
|
|||
|
|||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=cy_500001_14_05_2012&t=0&l=cy
|
|||||
Cofnodion: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Pwyllgor: |
|
Rosemary Butler (Cadeirydd) Peter Black Jocelyn Davies William Graham Jane Hutt |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Aled Elwyn Jones (Clerc)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Sarah Beasley, Clerc, Swyddfa Ddeddfwriaeth Marion Stapleton, Llywodraeth Cymru
|
|||
|
|
||||
1. Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau
Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2. Diwygio Rheolau Sefydlog: Biliau Preifat
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ystyried drafft diwygiedig o’r Rheolau Sefydlog mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Busnes yn y dyfodol, ac ar ôl hynny byddai’r Ysgrifenyddiaeth yn paratoi adroddiad i’w osod gerbron y Cynulliad.
2(i) Cyflwyno Biliau Preifat (RhS 26A.1 - 26A.14)
Ystyriodd y Rheolwyr Busnes y dulliau gwahanol ar gyfer Rheol Sefydlog 26A.6 arfaethedig a amlinellwyd gan swyddogion.
Nododd y Rheolwyr Busnes y byddai penderfynu ar ffioedd yn fater i Gomisiwn y Cynulliad.
Nododd y Rheolwyr Busnes hefyd sut y mae Rheol Sefydlog 26A.13 arfaethedig yn nodi gofynion eang o ran cyhoeddi a rhoi cyhoeddusrwydd i’r hysbysiad.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor ar Reolau Sefydlog 26A.1- 26A.14 arfaethedig.
2(ii) Cyfnod Gwrthwynebu (RhS 26A.15 - 26A.24)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor ar Reolau Sefydlog 26A.15 – 26A.24 arfaethedig.
2(iii) Pwyllgorau Biliau Preifat (RhS 26A.25 - 26A.36)
Nododd y Rheolwyr Busnes fod Rheol Sefydlog 26.31 yn gosod gofyniad y bydd aelodau o’r Pwyllgor Bil Preifat yn dilyn hyfforddiant.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor ar Reolau Sefydlog 26A.25 – 26A.36 arfaethedig.
2(iv) Ystyriaeth Gychwynnol (RhS 26A.37 - 26A.44)
Gofynnodd y Rheolwyr Busnes am gadarnhad am sut y byddai’r materion a ystyrir yn ystod Ystyriaeth Gychwynnol yn wahanol i’r rhai y byddai’r Llywydd yn eu hystyried wrth roi caniatáu i’r Bil gael ei osod.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor ar Reolau Sefydlog 26A.37 - 26A.44 arfaethedig.
2(v) Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor (RhS 26A.45 - 26A.70)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor ar Reolau Sefydlog 26A.45 - 26A.70 arfaethedig.
2(vi) Ystyriaeth Fanwl gan y Cynulliad (RhS 26A.71 - 26A.83)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor ar Reolau Sefydlog 26A.45 - 26A.70 arfaethedig.
2(vii) Y Cyfnod Terfynol ac Ailystyried Biliau Preifat a Basiwyd (RhS 26A.84 - 26A.94)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor ar Reolau Sefydlog 26A.84 - 26A.94 arfaethedig.
2(viii) Gwelliannau i Filiau Preifat (RhS 26A.95 - 26A.104)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor ar Reolau Sefydlog 26A.95 - 26A.104 arfaethedig.
2(ix) Newid Hyrwyddwr a Chydsyniad Ei Mawrhydi a Dug Cernyw (RhS 26A.105 - 26A.112)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor ar Reolau Sefydlog 26A.105 - 26A.112 arfaethedig.
2(x) Penderfyniadau Ariannol (RhS 26A.113 - 26A.119)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor ar Reolau Sefydlog 26A.113 - 26A.119 arfaethedig.
2(xi) Hysbysu ynghylch Cydsyniad Brenhinol i Ddeddfau Preifat y Cynulliad a Biliau Preifat yn Methu, yn Cael eu Gwrthod neu’n Cael eu Tynnu’n ôl (RhS 26A.120 - 26A.123)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor ar Reolau Sefydlog 26A.113 - 26A.119 arfaethedig.
2(xii) Newidiadau Canlyniadol i Reolau Sefydlog (RhS 15.1)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor ar newidiadau canlyniadol i Reol Sefydlog 15.1.